English

» EIN CEFNOGI NI «

  • Dewch yn Noddwr

    Mae ein Noddwyr yn rhan annatod o'n cymuned. Maen nhw'n chwarae rhan hanfodol wrth lunio effaith ein gwaith - a'r newyddion ardderchog yw, os ydych chi'n ein cefnogi ni, rydych chithau’n elwa hefyd.

    Mae noddwyr yn mwynhau'r profiad gorau posibl o’r Dyn Gwyrdd, ac yn cael cyfle i fynd y tu ôl i'r llenni i gwrdd â'r bobl sy'n sicrhau bod yr ŵyl yn dal i ymfalchïo yn ei statws annibynnol a bod yr ansawdd a’r arloesedd yn parhau.

    Mân fanteision i’r noddwr:

    • Archebu blaenoriaethol personol ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd - curwch y ciwiau, archebwch cyn y cyhoedd a gwarantu eich tocynnau gwerthfawr i'r ŵyl flynyddol, gyda chymorth ein tîm

    • Byddwch yn un o’r rhai cyntaf i gael gwybod am setiau cyfrinachol y Dyn Gwyrdd

    • Taith bwrpasol o amgylch yr ardaloedd a gefnogir gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn yr ŵyl – Y Celfyddydau Perfformio, Gardd Einstein a llwyfan Rising.

    • Gwahoddiad i'n derbyniad diodydd blynyddol, ‘gwahoddiad yn unig’ i gwrdd â'r bobl sy'n elwa o'ch cefnogaeth a chefnogwyr o'r un anian â chi

    • Mynediad i'r bar cefn llwyfan yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd

    • Gwahoddiad i rownd derfynol Green Man Rising i chi a 9 o ffrindiau

    • Taith gefn llwyfan Gŵyl y Dyn Gwyrdd

    • Bag nwyddau i noddwyr gyda rhaglen a nwyddau Dyn Gwyrdd am ddim

    • Crys-T y criw i chi eich hun

    • Eich enw wedi ei oleuo ar blatfformau ar-lein Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd


    Er mwyn gwybod mwy, cysylltwch ag info@greenmantrust.org.uk

  • Gwneud rhodd

    Rydym yn dibynnu ar roddion gan ein cymuned i barhau i feithrin artistiaid talentog sy'n dod i'r amlwg a chenedlaethau'r dyfodol, i ysbrydoli pobl i weithredu dros yr hinsawdd, ac i gefnogi cymunedau Cymru i greu newid cadarnhaol.

    Waeth pa mor fawr neu fychan yw eich rhodd, rydym yn buddsoddi pob ceiniog yn ôl yn ein gwaith.

  • Diolch

    Diolch aruthrol i’r unigolion a’r sefydliadau rhagorol sy’n rhan o deulu Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ac sy’n gwneud ein gwaith yn bosibl:

    Agile Cymru | Ashley Family Foundation | Bad Wolf Ltd | | British Council Wales | Bryan Adams Foundation | Cardiff University | Colwinston Charitable Trust | Community Foundation Wales | GWR Customer & Community Improvement Fund | Hardlines Cafe | Miller Research | Mr Trolley | National Lottery Community Fund | PRS Foundation | Tiger Mountain | Ty Cerdd | University of South Wales | Wales Arts International | Wales Week in London | Welsh Broadcasting Trust | Woodfired Ltd

    Our Patrons & Donors Angus Bailey | Bredan Kelleher | BOF (Michael & Leonie Parrish) | Chris & Katherine Jones | Chris Nott & Elin Pinnell | Colin Riordan | The Conran Family | Dan Harding | David Bowen | Dave & Karen Broadway | David Whitney | Emma & Ben Shuckburgh | Dai Davies | Francesca James & Dylan Evans | Gary Morgan | Ian Courtney | Jeremy Morton | Kate Bull & Paul Penrose | Kevin Williams | Lee Summers | Liv & Matt Topple | Lucy Darch | Meirion Jones | Peter Madigan & Carole Hailey | Ralph Bolton | Tom Beech

    Our Founder Fiona Stewart | Ambassador Iwan Rheon | Trustees Natasha Hale, Joanna Owen, Ian Fielder and Dan Langford OBE | project partners & participants, trainers, support workers, producers, directors, technical crew & project managers.