» Y CELFYDDYDAU GWELEDOL «
Yn 20216 dechreuodd rhaglen Celfyddydau Gweledol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd greu gofod newydd ar gyfer celfyddyd yn yr ŵyl gerddoriaeth. Rydym yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd i feddwl y tu allan i'r ciwb gwyn gan gynnig yr unig raglen yn sin gwyliau’r DU lle ceir dull sy’n meithrin yr artistiaid.
110+
o artistiaid ar ddechrau eu gyrfa ers 2016
-
Rhaglen y Celfyddydau Gweledol
Fel un o ddim ond tair gŵyl annibynnol sydd ar ôl, mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ofod delfrydol i warantu uniondeb artistig y gwaith sy’n cael ei ddatblygu y tu allan i fuddiannau corfforaethol masnachol sy'n aml yn fygythiad i waith celf.
Trwy gynnig model sy’n gyfuniad o gwrs preswyl a chomisiwn dros gyfnod o 12 mis, mae artistiaid gweledol ar ddechrau eu gyrfa yn cael cefnogaeth gan dîm profiadol y Dyn Gwyrdd i fynd ati’n hyderus i archwilio posibiliadau celf gyhoeddus mewn cyd-destunau anghonfensiynol. Mae'n eu harfogi â'r offer i greu gweithiau awyr agored ar raddfa fawr, a hynny’n aml am y tro cyntaf, eu cyflwyno i gynulleidfa fyw o filoedd o bobl a manteisio ar y cyfryngau cenedlaethol sy'n dod i'r ŵyl bob blwyddyn.
Rydym yn cynnig:
-
Rhaglen ddatblygu broffesiynol strwythuredig, â chyflog teg, adnoddau da a hygyrch wedi'i theilwra yn ôl anghenion yr artistiaid;
-
Cefnogaeth bwrpasol gan gynhyrchydd rhaglen, timau technegol a chynhyrchu arbenigol; gofod cefnogol a mynediad i blatfform rhyngwladol mawr ac uchel ei barch gyda chyrhaeddiad sylweddol cynulleidfa fyw a digidol;
-
Mynediad at raglen o gyrsiau preswyl, digwyddiadau rhwydweithio, mentora a hyfforddi, sesiynau 1-2-1, gweithdai grŵp a sgyrsiau dan arweiniad a chyda cyfraniadau gan gymuned o artistiaid a rhwydweithiau diwydiant cenedlaethol a rhyngwladol;
-
Llwybrau i ddangos y gwaith y tu hwnt i'r ŵyl;
-
Mae artistiaid hefyd yn elwa o ffotograffiaeth broffesiynol ac o gael eu hamlygu diolch i Ŵyl y Dyn Gwyrdd.
Rydym wedi cyd-gomisiynu gwaith gyda FACT, Forma, QUAD, g39 ac Orielau Southwark Park ac mae ein comisiynau wedi teithio - A Dreamy Place yn Crawley, Oriel Somos yn Berlin, GS Artists yn Abertawe a g39 Caerdydd ymhlith eraill. Mae ein rhaglen breswyl yn denu màs critigol o fentoriaid arbenigol a siaradwyr gwadd: Karen Mackinnon, Oriel Glynn Vivian; Judith Carlton, SPG; Ceri Hand, Somerset House; Ben Borthwick, curadur; Shonagh Manson, GLA; Peter Bonnell, QUAD; Helen Starr, curadur, sylfaenydd Mechatronic Library; Rachel Cunningham-Clarke, Forma a Maitreyi Maheshwari, FFAITH. -
-
Ffeithiau Allweddol
-
110+ o artistiaid ar ddechrau eu gyrfa yn cael eu cefnogi
-
31 gwaith comisiwn (gan gynnwys 2 fenter ar y cyd)
-
74 cwrs preswyl i artistiaid
-
65% o artistiaid benywaidd
-
21% o artistiaid anabl a/neu niwro-amrywiol
-
223,200+ o gynulleidfaoedd byw ers 2016
-
-
Astudiaeth Achos - Gweni Llwyd
Artist o Gymru yw Gweni Llwyd sy’n gweithio ar draws y byd cyffyrddol a digidol - yn bennaf trwy gyfrwng delweddau-symudol, lluniadu a gosodiadau. Mae gwaith Gweni yn plethu profiadau personol, cyfunol a rhai y ‘tu hwnt i brofiadau dynol’ gyda'i gilydd mewn modd chwareus, gan dynnu sylw at sut mae bywyd i gyd yn rhan o fetabolaeth flêr, sy’n cael ei rhannu.
Cwblhaodd Gweni gwrs preswyl i artistiaid Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn 2020 yn ystod y pandemig a chafodd ei dewis ar gyfer y rhaglen yn 2021. Y gwaith comisiwn ar gyfer y Dyn Gwyrdd oedd prosiect awyr agored cyntaf yr artist ar raddfa fawr ac mae wedi teithio o amgylch S1 Art Space yn Sheffield ar ôl inni ei chyflwyno iddynt. Ers hynny mae ei gwaith wedi cael ei ddangos hefyd yng Ngŵyl y Biennale yn Fenis, yn W139 yn Amsterdam ac MaMA yn Rotterdam.

'Gwyliau yw'r lleoedd perffaith ar gyfer gosodiadau fideo/golau. Mae dangos gwaith yn yr awyr agored yn heriol ond mae'r canlyniadau'n gwbl arbennig ac yn werth yr holl straen. Roedd cefnogaeth y tîm yn amhrisiadwy er mwyn gwneud y gwaith a chynyddu fy hyder yn fy ymarfer ac ynof fi fy hun!' Gweni Llwyd