» GWYDDONIAETH A’R HINSAWDD «
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn ymgysylltu â miloedd o bobl drwy ddefnyddio materion yr hinsawdd a gwyddoniaeth. Rydym yn mynd i'r afael â chwestiynau mawr bywyd gan ddefnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac amlygu anghyfiawnderau bywyd bob dydd, heriau gwyddonol a chymdeithasol, ac yn cynnig atebion ar gyfer byd gwell.
400,000+
o bobl wedi ymgysylltu â gwyddoniaeth a’r hinsawdd ers 2014
-
Gardd Einstein
Mae Gardd Einstein yn chwyldroi’r diddordeb mewn gwyddoniaeth. Dyma'r ardal gyntaf o'i bath mewn gŵyl gerddoriaeth yn y DU lle mae meddyliau chwilfrydig yn archwilio ein perthynas â'r byd naturiol.
Nid rhywle i eistedd i lawr a gwrando ar ddarlith mo hwn. Mae'n ofod lle mae gwyddoniaeth yn cwrdd â'r celfyddydau, comedi, syrcas a theatr. Mae'n cynnig rhaglen o osodiadau, arbrofion, sgyrsiau a gweithdai sy’n ymchwilio'n ddwfn i faterion perthnasol, mawr a mân, sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd nawr ac i'r dyfodol.
Mae Gardd Einstein yn sicrhau bod STEM yn hygyrch i bobl na fyddent efallai fyth yn mynd i ddigwyddiad gwyddoniaeth traddodiadol. Mae'n helpu ymchwilwyr i ddatblygu ffyrdd newydd o gyfleu eu gwaith ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd i brofi ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth a chysylltiad â'r syniadau gwyddonol sy'n siapio ein byd.
-
Pandemoniwm
Yn 2025 gwnaethom lansio rhaglen Gwyddoniaeth a Hinsawdd newydd feiddgar: Pandemoniwm.
Cafodd ei henwi ar ôl prifddinas ddychmygol Uffern gan Milton, lle mae llawer yn meddwl ein bod ni ar hyn o bryd. Mae Pandemoniwm yn cyflwyno heriau mwya’r byd ac yn cynnig atebion yn seiliedig ar ymchwil gan rai o feddyliau mwyaf y byd a sefydliadau blaenllaw.
Nid siambr atsain sydd yma lle mae pobl o'r un anian yn mynegi eu dicter neu eu hanobaith heb ganlyniad. Yn hytrach, mae'n herio traddodiad, ac yn croesawu cynnwys sy'n chwyldroadol, sy’n rhyngweithiol a beiddgar. Mae Pandemoniwm yn brofiad hanfodol ar gyfer unrhyw un sy'n barod i ymgysylltu'n ddwfn â'r drafodaeth. Rydym yn trafod pynciau fel camwybodaeth, gweithredu ar newid hinsawdd, datblygu economaidd, cymdeithas iach a theg a'r gwyddorau cymdeithasol.
Yn anad dim mae Pandemoniwm yn ofod cynhwysol sy'n uno cymunedau gwyddonol, ymchwil ac academaidd, grwpiau lleol amrywiol a meddylwyr radical er mwyn archwilio heriau sy'n gysylltiedig yn fyd-eang ond sy'n cael eu profi'n lleol. Rydyn ni eisiau creu mudiad llawr gwlad lle mae pobl yn siarad gyda’i gilydd yn hytrach nag at ei gilydd.
-
Partneriaethau
Mae ein partneriaethau Gwyddoniaeth a Hinsawdd wedi cynnwys sefydliadau blaenllaw o bob cwr o'r DU:
-
The Wellcome Trust
-
Research Council UK
-
Cancer Research
-
Sefydliad Joseph Rowntree
-
BBC Radio Four Inside Science
-
Gofal Canser Tenovus
-
The Institute of Physics
-
The Institute of Engineering and Technology
-
Swyddfa’r Met
-
Prifysgol Rhydychen
-
Prifysgol Caergrawnt
-
Coleg King’s Llundain
-
Coleg Imperial Llundain
-
Prifysgol Caerdydd
-
Prifysgol Abertawe
-
Coleg Prifysgol Llundain
-
Prifysgol Aberystwyth
-
Prifysgol Plymouth
-
a llawer iawn mwy…
-
-
Ffeithiau allweddol
-
400,000+ o bobl wedi ymgysylltu â gwyddoniaeth ers 2008
-
2,720+ o ymchwilwyr, ymgyrchwyr a pherfformwyr i gyd ers 2008
-
160+ o ymchwilwyr, ymgyrchwyr a pherfformwyr bob blwyddyn
-
50+ o weithdai a pherfformiadau bob blwyddyn
-
Pŵer gan ynni’r haul a chell danwydd hydrogen
-
-
Astudiaeth Achos – Prifysgol Caerdydd
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd a Phrifysgol Caerdydd wedi adeiladu partneriaeth hirsefydlog gan weithio ar draws ein rhaglen hyfforddi ac ymgysylltu â gwyddoniaeth. Yn 2025, datblygodd y bartneriaeth hon fomentwm newydd gyda lansiad Pandemoniwm yng Ngardd Einstein - rhaglen newydd feiddgar lle mae meddylwyr, ymchwilwyr ac arloeswyr radical yn wynebu heriau cymdeithasol a gwyddonol brys gyda chreadigrwydd.
Cyflwynodd Prifysgol Caerdydd 6 trafodaeth ddifyr yn ystod blwyddyn gyntaf Pandemoniwm, gan ehangu ymchwil ac arloesedd myfyrwyr i gynulleidfaoedd amrywiol, sy’n pontio’r cenedlaethau ac sy’n tynnu sylw at nodau strategol a rennir rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Dyn Gwyrdd gyda golwg ar gyd-greu cyfleoedd, sbarduno newid cadarnhaol a chynaliadwy a dan arweiniad y gymuned.
'Mae gan Ŵyl y Dyn Gwyrdd safle unigryw o ran ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae ei henw da gyda golwg ar greadigrwydd ac ansawdd yn ei gwneud yn bartner delfrydol i arddangos sut y gall cydweithio rhwng y celfyddydau a'r byd academaidd sbarduno atebion radical. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ymchwil arloesol a syniadau blaengar yn cael eu datblygu bob dydd, a thrwy'r Dyn Gwyrdd, mae'r gwaith hwnnw'n cyrraedd at gynulleidfaoedd amrywiol a byd-eang. Mae'r bartneriaeth greadigol hon hefyd yn herio ein hymchwilwyr i ddatblygu sgiliau newydd mewn ymgysylltu â'r cyhoedd ac ailfeddwl sut maen nhw'n cyflwyno eu gwaith i gysylltu ac ysbrydoli pobl o bob cefndir.' Wendy Larner, Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd