English

» Ein gwaith yng Nghymru «

Mae cefnogaeth gymunedol yn rhan o DNA’r Dyn Gwyrdd. Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn gweithio mewn partneriaeth â’r ŵyl er mwyn mynd i’r afael â thlodi a’r anghydraddoldebau cymdeithasol a grëwyd gan y bwlch cyfoeth ac oedran yng Nghymru, drwy godi arian i’r rhai yr effeithir arnynt gan drychinebau naturiol, cefnogi ysgolion lleol a chanolfannau cymdeithasol, ac adeiladu cymunedau cynhwysol a chydnerth. Mae'r her yn un frawychus: erbyn 2040, bydd un o bob pedwar o bobl Cymru dros 65 oed; erbyn 2045, bydd y boblogaeth dros 90 oed yn dyblu. Bydd y galw am ofal yn saethu i fyny; Bydd angen 40,000 mwy o staff a 20,000 mwy o welyau. Mae gofal iechyd a gofal cymdeithasol eisoes dan straen.