» Gwneud cais am Grantiau Cymunedol «
MAE'R GRONFA HON BELLACH WEDI CAU A BYDD YN AILAGOR YN 2026
Nod ein Cronfa Gymunedol newydd yw cefnogi gweithgareddau sy'n mynd i'r afael ag elfen o angen cymdeithasol, annog cynhwysiant a helpu ein cymunedau i ddod yn fwy gwydn. Rydym yn credu bod pobl yn deall beth sydd ei angen yn eu hardal leol yn well nag unrhyw un. Felly, mae'n bwysig i ni fod eich prosiect yn cynnwys eich cymuned yn y gwaith o ddylunio, datblygu a chyflwyno'r gweithgareddau rydych chi'n eu cynllunio.
-
MATHAU O BROSIECTAU
-
Gweithgareddau grwpiau cymdeithasol a diwylliannol sy'n annog cynhwysiant
-
Gweithgareddau hamdden sy'n hyrwyddo iechyd a lles ar gyfer yr henoed a phobl ifanc,
-
Gwella hygyrchedd i bobl ag anabledd,
-
Prynu offer, ymgymryd â mân waith atgyweirio, ail-addurno mannau cyhoeddus sy’n cael eu rhannu
-
Cymorth tuag at filiau gwasanaethau ar gyfer mannau cyhoeddus sy'n dod â phobl at ei gilydd
-
Gweithgaredd sy'n mynd i'r afael â cholled, ynysu neu unigrwydd,
-
Gweithgaredd i annog newid a chefnogaeth i bobl sy'n profi gwahaniaethu a/neu weithio er mwyn herio gwahaniaethu a/neu bobl sy'n profi caledi ariannol.
-
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Canllaw yn unig yw hi yr ydym yn gobeithio fydd yn ysbrydoli syniadau i ddod â newid cymdeithasol cadarnhaol i'ch cymuned.
-
-
AM FAINT O ARIAN Y GALLWCH CHI WNEUD CAIS
Mae'r grantiau sydd ar gael yn amrywio o £500 i £2,000.
-
CYMHWYSEDD
Wedi'i gyfyngu i brosiectau ym Mhowys neu sydd o fudd i bobl Powys – ymgeiswyr o'r gymuned leol sy'n byw yn lleol, ger yr ŵyl.
Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, grwpiau awdurdodau lleol, canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, ysgolion (yn enwedig ysgolion anghenion arbennig), grwpiau ieuenctid a mannau cynnes.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer y canlynol:
-
Gweithgaredd sydd eisoes wedi digwydd neu sy'n dechrau cyn inni anfon ein penderfyniad i chi
-
Unigolion
-
Unig fasnachwyr
-
Sefydliadau sy'n canolbwyntio ar wneud elw a rhannu'r elw hwnnw’n breifat – gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig gan gyfranddaliadau, sefydliadau heb y cloeon asedau cywir, neu sefydliadau sy'n gallu talu elw i gyfarwyddwyr neu gyfranddalwyr
-
Sefydliadau y tu allan i Bowys
-
Astudiaethau dichonoldeb, ymgynghoriad cyhoeddus a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â llunio polisïau
-
Grwpiau ffydd neu wleidyddol a/neu weithgareddau sy'n hyrwyddo safbwyntiau crefyddol neu wleidyddol
-
Ceisiadau a wneir gan un sefydliad ar ran sefydliad arall
-
-
SUT I WNEUD CAIS
MAE'R GRONFA HON BELLACH WEDI CAU A BYDD YN AILAGOR YN 2026
Anfonwch eich cais i ni at info@greenmantrust.org.uk, mewn dogfen nad yw'n fwy na 2 ochr A4, maint ffont heb fod yn llai nag 11pt, gan nodi’r manylion canlynol:
Enw eich prosiect
Ble bydd eich prosiect yn cael ei gynnal
Ar gyfer pwy mae eich prosiect a beth yw nifer disgwyliedig y buddiolwyr
Eich syniad – beth hoffech chi ei wneud
Effaith eich prosiect – sut y bydd yn gwella bywyd yn eich cymuned
Pryd y bydd eich prosiect yn digwydd ac am ba hyd
Cyfanswm cost y prosiect ac am faint o arian ydych chi'n ymgeisio
Gallwch gynnwys hyd at 1 dolen i we-dudalen neu fideo sy'n berthnasol i'ch prosiect neu hyd at 2 o ddelweddau (maint ffeil heb fod yn fwy na 2MB)
Bydd arnom hefyd angen cyllideb sy'n rhoi manylion y gwariant a'r incwm yr ydych yn ei ragweld, gan gynnwys unrhyw gymorth ar ffurf nwyddau. Rydym yn fodlon bod yn unig ariannwr eich prosiect ac nid oes angen i chi gael arian cyfatebol yn barod pan fyddwch yn gwneud cais.