» Hyfforddiant «
Mae’r Dyn Gwyrdd yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol lle gall grŵp amrywiol o bobl ddatblygu'n hyderus yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae ein rhaglenni addysg, hyfforddiant ac allgymorth yn cael eu cyflwyno ym mhrif swyddfa’r Dyn Gwyrdd ac yn yr ŵyl ac maen nhw’n cynnwys partneriaethau a chydweithrediadau â phrifysgolion, colegau lleol a sefydliadau cymorth cymunedol.
439+
o leoliadau hyfforddi ers 2018
-
Cenedlaethau’r Dyfodol
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg yng Nghymru i gynnig hyfforddiant yn y byd go iawn i bobl ifanc. Mae ein rhaglenni'n meithrin sgiliau mewn ystod eang o feysydd proffesiynol ac ar yr un pryd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol y cyfranogwyr. Rydym yn cynnal lleoliadau mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Byddin yr Iachawdwriaeth a Choleg Merthyr ac yn cynnig profiadau dysgu dwys sy’n arwain at yrfaoedd sy'n creu argraff ar CVs pobl ifanc ac yn caniatáu iddynt ddatblygu rhwydweithiau proffesiynol newydd a gweithio ochr yn ochr â goreuon proffesiynol y diwydiant.
Ers 2018, rydym wedi darparu 248 o leoliadau ac mae 41% o'r cyfranogwyr bellach yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau creadigol.
Mae lleoliadau gwaith â thâl a phrofiad gwaith gwirfoddol yn cwmpasu unrhyw beth o Gynhyrchu'r Cyfryngau, Gweithrediadau, Logisteg, Marchnata, Achredu a Rheoli Gwesteion, Datblygu a Chodi Arian, Cysylltu ag Artistiaid, Cyllid a Gweinyddu a Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu.
-
Astudiaeth Achos - Rubie Barker
Roedd Rubie yn cwblhau ei chwrs BA Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd pan wnaeth gais llwyddiannus am leoliad Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Ymunodd â thîm Marchnata Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar gyfer profiad gwaith dwys o 2 fis lle bu'n gweithio'n agos â Front Door Communications, sef Asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru’r ŵyl. Ar ôl cwblhau ei lleoliad, cafodd Rubie ei recriwtio gan Front Door fel Swyddog Gweithredol Cyfrif tra’n astudio ar gyfer ei gradd meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae hi bellach yn gweithio'n llawn amser gyda'r tîm, yn ysgrifennu datganiadau i'r wasg, blogiau ac yn cynllunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac mae hi ar dîm ymroddedig y Dyn Gwyrdd ar gyfer y wasg.

'Roedd cael y profiad gwaith yn y Dyn Gwyrdd yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol mor bwysig. Roedd yn gwneud i mi sefyll allan i gyflogwyr y dyfodol, ac roedd yn profi fy mod yn gallu fy addasu fy hun i wahanol swyddi ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd. Roedd gweithio yn yr ŵyl yn brofiad anhygoel ac yn rhywbeth na fyddaf fyth yn ei anghofio. Nid dim ond cyngor y tîm oedd yn gwbl arbennig ond hefyd caredigrwydd ac ysbryd yr ŵyl. Roedd gweithio mewn amgylchedd swyddfa yn brofiad newydd i mi, ond cawsom ein hannog i deimlo'n gyfforddus ac i ofyn cwestiynau am y gwaith yr oeddem yn ei wneud. Roedd pob un person y bûm yn gweithio gydag ef yn barod i siarad am ei brofiadau yn dod i mewn i'r diwydiant ac yn cynnig mewnwelediad a chyngor. Bu gweithio gydag ystod mor amrywiol o bobl yn help i mi ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a'm gwneud yn fwy ymwybodol o gymhlethdodau gweithio gyda chymaint o wahanol bobl.' Rubie Barker
-
Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymorth cymdeithasol, rydym yn cynnal prosiect hyfforddi sy'n cefnogi integreiddiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Mae'r cyfan yn ymwneud â datblygu hyder a’r synnwyr o bwrpas ac o berthyn, ac estyn croeso cynnes Cymreig wrth iddynt ddod i arfer â’u bywydau newydd. Mae’r prosiect hefyd yn gyfle i gyfranogwyr ymgysylltu â phobl a phrofiadau y tu allan i’w cymuned.
Mae’r cyfranogwyr yn dysgu sgiliau newydd yn y canlynol:
-
Iechyd a diogelwch, gweithdrefnau gadael mewn argyfwng tân, rheoli torfeydd a gwasanaethau cwsmeriaid
-
Yr iaith Gymraeg, sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, arweinyddiaeth, rheoli amser a sgiliau rhyngbersonol
Ers 2018, rydym wedi cynnig 191 o leoliadau hyfforddi i bobl o 52 o wahanol wledydd.
-
-
Astudiaeth Achos - Alis
Ganed Alis yn San Carlos Sula Cortés, Honduras, a dechreuodd hyfforddodd i fod yn gogydd pan oedd yn 15 oed. Enillodd brofiad mewn llawer o fwytai a cheginau dros gyfnod o tua saith mlynedd a hyd yn oed mynd yn ei flaen i sefydlu ei fusnes cig rhost ei hun. Yn anffodus, parlyswyd y ddinas lle’r oedd yn byw gan gangiau treisgar, ac effeithiodd hyn yn y pen draw yn uniongyrchol ar ei fywyd a’i fywoliaeth ef pan fygythiwyd herwgipio ei chwaer. Bu'n rhaid i Alis, ei fam, ei chwaer a'i frawd ffoi o'r wlad er mwyn dianc rhag y bygythiadau treisgar hyn ac yn 2019 fe ddaethant i’r DU a ddau fis yn ddiweddarach teithio i Gaerdydd. Dechreuodd wirfoddoli gydag Oasis Caerdydd, gan ddysgu Saesneg a rhoi ei sgiliau coginio ar waith fel aelod o dîm y gegin ac yn fuan wedyn daeth yn rhan o'u tîm yn y Dyn Gwyrdd. Ef bellach yw Cogydd a Rheolwr Arlwyo balch trelar bwyd Oasis Caerdydd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

'Os byddai’n rhaid i mi ddweud [beth fu fy hoff foment hyd yn hyn] yr adeg pan gefais fy mhrofiad cyntaf o fod yn y Dyn Gwyrdd oedd hynny. Dyma'r tro cyntaf i mi ddelio â chwsmeriaid. Felly roedd yn brawf, nid yn unig o fy sgiliau fel cogydd, ond o ran siarad Saesneg. Roeddwn i'n nerfus iawn! Ac eto roedd yn hwyl... Roedden ni'n brysur iawn, ond roedd yn amser gwych gyda fy ffrindiau yn y gwaith. Roedd yn llawn straen ond yn ddoniol ar yr un pryd ac yn y nos roedden ni’n gallu mynd i wrando ar gerddoriaeth - oedd yn beth da. (...) I ddweud y gwir, nid y digwyddiad sy’n bwysig, ond y bobl. Mae'n braf cael yr adborth, mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn o'r hyn rydyn ni'n ei wneud a phwy ydyn ni. Mae'r gefnogaeth gan yr holl bobl yn bwysig. Mae'n deimlad da. (...) Nid ein bai ni yw ceisio cael bywyd gwell. Beth bynnag yw'r rheswm, lle bynnag yr ydym wedi bod, nid yw'n ddiogel. Yn ôl yn fy ngwlad fy hun, roedd gen i fy musnes fy hun a fy mywyd fy hun, roedd gen i bopeth. Fe ddes i yma nid gan fy mod i eisiau dod, ond oherwydd bod fy mywyd mewn perygl. Nid yw'n ddewis, mewn gwirionedd.' Alis